Diolch
Yn gyntaf, fel trefnydd, y peth cyntaf rwyf am wneud ydi diolch ichi gyd am gofrestru i gymeryd rhan yn y her / ras or 6ed llwybr ac mae hyn yn golygu dros 150 ohonnoch. Dyma fydd ras rhedag cyntaf erioed i gael ei gynnal yn y pentref unigryw o Bortmeirion.
Mi fydd y ras yn gystadleuol i ras on yn her bersonol i eraill, ac mi fydd rhaid ir rhedwyr ddewis a penderfynnu y lleoliad i fynd heibio rhedwyr eraill, oherwydd y llwybrau bach a cul sydd ofewn y “Gwyllt’. Amcan y ras / her ydi i dynnu rhedwyr newydd ir byd rhedag llwybr a hefyd i ail gydio y tan i redwyr sydd angen y hwb i ddechrau nol.
Mae pobeth yn dechrau a gorffen odan y ‘arch’ ar y sgwar, ger caffi glas, ac yn gweithio ei ffordd i fyny yr allt trwy y pentref lawr am y gwesty ac wedyn ar hyd yr mor a fewn ir Gwyllt ac i fyny i uchelfannau y Gerddi Ysbryd ac yn ol ir pentref, i ddechrau yr ail ‘lap, a wedyn i orffen.
Mi fydd yna newyddion diweddarf ar gael drwy facebook a hefyd twitter (@6thtrail). Edrych mlaen i weld chi ym Mhortmeirion
Diolch yn fawr,
Stephen Edwards
Trefnydd 6ed Llwybr
(CREAD Cyf digwyddiadau)